Llyfr y Dydd
Mae Gwasg y Bwthyn, Caernarfon yn cynnig 'Llyfr bob dydd'. Cysylltwch â'ch siop neu ewch ar lein i archebu.
Cystadleuaeth Prawf MOT!
2022-02-24
Cystadleuaeth Prawf MOT!
Tynnwch lun ohonoch chi a’ch ci, efo copi o Prawf MOT, nofel newydd wych Bethan Gwanas
Rhowch o ar eich cyfrif Trydar, neu Facebook neu Instagram, a’n tagio ni ̶ Gwasg y Bwthyn!
Neu anfonwch eich cais i: marred@gwasgybwthyn.co.uk neu meinir@gwasgybwthyn.co.uk
Beirnaid: Richard Jones
Dyddiad cau 31 Mawrth.
Gwobr: Pecyn o lyfrau Gwasg y Bwthyn a phecyn o ddanteithion i’r ci!
Glasynys
2020-07-30
Nofel wych i ddarllen ar eich gwyliau yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Glasynys gan Ann Pierce Jones. Mae hi'n ddiwedd haf 1965, ac mi gawn ni ddilyn hanes Guto a Lilian, a'u plant Emyr a Mari, sy'n symud o'u cynefin ym Mhen Llŷn i gartref newydd, sef Glasynys, fferm ar bwys Conwy. Dianc y maen nhw rhag trasiedi teuluol. A fydd eu cartref newydd yn cynnig gobaith newydd iddyn nhw?
I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.
Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!
Cylchoedd
2020-07-29
Llyfr newydd sbon arall yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Cylchoedd gan Sian Northey. Mae’r gyfrol hon o straeon byrion yn arddangos dawn Sian ar ei orau. Mae’n dweud pethau mawr gyda chynildeb a deallusrwydd wrth iddi fyfyrio uwchben y cylchoedd sydd yn ein cysylltu i gyd.
I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.
Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!
Haf o hyd?
2020-07-28
Cyfrol o straeon byrion i gyd yn ymwneud â’r haf yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Haf o hyd? Mae’r straeon yn ddifyr ac yn codi ambell gwestiwn i gnoi cil drosto. Yr awduron yw Mari Gwilym, Annes Glynn, Aled Islwyn, Lleucu Roberts, Haf Llewelyn, Rhian Owen, Non Tudur, Llio Maddocks, Heiddwen Tomos, Gareth Evans-Jones a Gwen Lasarus.
I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.
Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!
Ambell Damaid
2020-07-27
Llyfr newydd sbon danlli yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Ambell Damaid gan Dewi Jones. Dyma i chi lyfr ffraeth, difyr, a doniol, yn gyforiog o wybodaeth a sylwadau cofiadwy. Llyfr i bori ynddo a mwynhau!
I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.
Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!
Llyfr Bach Paris
2020-07-24
Llyfr arall i godi galon yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Llyfr Bach Paris gan Lara Catrin. Cawn ddilyn anturiaethau Cymraes ym mhrifddinas Ffrainc a dod i adnabod ei chartre dros dro yn well – caffis, dynion golygus, gwin a ffasiwn!
I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.
Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!
Eiliadau Tragwyddol
2020-07-23
Cyfrol arbennig o farddoniaeth yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Eiliadau Tragwyddol gan y Prifardd Cen Williams. Mae’r bardd yn gweld ei genedl trwy ei fro enedigol ar Ynys Môn. Mae’n adleisio profiad y darllenydd wrth fwrw golwg ar y Gymru gyfoes.
I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.
Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!
Er budd babis Ballybunion
2020-07-22
Er budd babis Ballybunion gan Harri Parri yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Dyma gyfle i chi droedio strydoedd Porth yr Aur unwaith eto yng nghwmni cymeriadau bythgofiadwy'r dref ryfeddol honno.
Llyfr i godi calon!
I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.
Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!
Edau Bywyd
2020-07-21
Nofel gyfoes a diddorol yw ein Llyfr y Dydd heddiw sef Edau Bywyd gan Elen Wyn. Mi gawn ni gipolwg ar fywydau nifer o bobl ar un diwrnod ym mis Mehefin. Cipolwg, ie, ond fe ddown ni i sylweddoli’n raddol fod cysylltiad rhyngddyn nhw. Mae’r cwlwm yn un tyn na ellir ei dorri...
I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.
Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!
Drama Un Dyn
2020-07-20
Drama Un Dyn gan Tony Jones yw ein Llyfr y Dydd heddiw. Dyma stori ddifyr hogyn o Fôn fu’n gwarchod y Frenhines ym Mhalas Buckingham a Windsor, yn magu ceffylau Shetland, yn actio, yn adeiladu a chadw siop. Os ydych chi’n hiraethu am y Sioe Fawr, beth am gamu i mewn i fyd y ceffylau yng nghwmni Tony?
I’w brynu, cysylltwch â’ch siop lyfrau lleol neu ewch ar-lein. Gall pobl sy’n prynu o wefan gwales.com enwebu siop lyfrau lleol a fydd yn derbyn comisiwn ar gyfer bob gwerthiant.
Prynwch, cadwch yn ddiogel a mwynhewch!
ARCHIF LLYFR Y DYDD
Cliciwch yma i weld archif llyfr y dydd